Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

 

WESP 05

Ymateb gan : Dyfodol i’r Iaith

Response from : Dyfodol i’r Iaith

Cwestiwn 1

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?

Tra bo’r Strategaeth Addysg Gymraeg 2010 yn cydnabod pwysigrwydd allweddol addysg fel cyfrwng i gynyddu’r nifer siaradwyr Cymraeg, eto mae’n resyn nodi nad yw’r targedau ar gyfer 2020 yn debygol o gael eu gwireddu. Golyga hyn y bod angen i’r Llywodraeth bwysleisio a chryfhau’r blaenoriaeth a roddir i’r Gymraeg mewn addysg, yn ogystal â mynd i’r afael â’r gwendidau sydd wedi ymddangos eisoes.

Yn rhy aml o lawer mae Cynlluniau wedi cael eu derbyn sy ddim yn dangos sut mae cynyddu addysg Gymraeg.  Enghraifft amlwg yw Cynllun Castell-nedd Port Talbot, lle na welwyd twf mewn 15 mlynedd yn niferoedd disgyblion 7 oed sy’n mynychu ysgolion Cymraeg.

Mae’r Strategaeth Addysg yn nodi canrannau twf penodol, yn ôl y ganran sy’n derbyn addysg Gymraeg ar hyn o bryd, ond anaml y mae’r Cynlluniau Sirol yn cyfeirio at hyn. Dylai’r Llywodraeth, wrth dderbyn y Cynlluniau, ddisgwyl gweld sut mae’r Cynlluniau am gyrraedd y targedau twf yn y Strategaeth Addysg.

O ran dilyniant ieithyddol rhwng y sector cynradd ac uwchradd, mae rhai Awdurdodau Lleol yn methu cael dylanwad ar y niferoedd sy’n troi o iaith gyntaf i ail iaith.  Mae’n siomedig bod cwymp yn digwydd erbyn cyfnod allweddol 3, ac eto erbyn cyfnod allweddol 4.  Er bod y Strategaeth Addysg yn gosod targedau cadarnhaol, mae rhai siroedd yn methu cyrraedd targedau.

Yn yr un modd mae rhai siroedd yn methu cynyddu nifer y pynciau sy’n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.  Gall hyn fod oherwydd polisïau ysgolion unigol. 

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?

Byddai targedau cryfach yn lleol yn cyfrannu at gynnydd cenedlaethol. Mae  angen i’r Llywodraeth ddangos arweiniad cadarn yn y maes, a chydweithio’n llawer agosach gyda’r Awdurdodau Lleol.

Mae angen rhaglen gadarnhaol ac eang yn rhoi gwybod i rieni am fanteision addysg Gymraeg o ran hunaniaeth, a hefyd y manteision diwylliannol, gwybyddol a gyrfaol.

Gan nad yw’r gallu gan cynifer o Awdurdodau Lleol, mae angen i’r Llywodraeth gymryd rôl greadigol yn y broses a chynnig i Awdurdodau lleol sut gellid ehangu addysg Gymraeg. Mae’r prosesau presennol o ehangu addysg Gymraeg yn rhai araf, ac yn aml yn golygu cost cyfalaf sylweddol.  Dyma bosibiliadau:

i.              Ad-drefnu ysgolion mewn ardal drefol, gyda’r nod o briodoli ysgolion i’w trosi’n ysgolion Cymraeg.

ii.            Cychwyn gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn Cymraeg, fel bod ysgolion yn troi’n ysgolion Cymraeg fesul blwyddyn.

Mewn rhai achosion, mae angen gweithredu’n draws-sirol, fel bod ysgolion Cymraeg yn gwasanaethu cymunedau gwirioneddol, yn hytrach na ffiniau artiffisial.

Mae’n bwysig gosod targedau uchelgeisiol a realistig. O weithredu’n unol â hyn, teimla Dyfodol i’r Iaith y byddai sicrhau y bod 50% o ddisgyblion Cymraeg 7 oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2030 yn gyraeddadwy. Byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ragolygon y Gymraeg, yn ogystal â dod a manteision addysgol yn ei sgil.

O ran dilyniant iaith rhwng y gwahanol sectorau, mae angen cyflwyno’r Gymraeg fel un pwnc ar hyd continwwm.  Mater i adran addysg y Llywodraeth a’r cyrff arholi yw hyn. Bydd hyn yn dileu’r posibilrwydd o newid o ‘iaith gyntaf’ i ‘ail iaith’, ac yn sicrhau bod pob disgybl yn gwella ei sgiliau iaith.

Cwestiwn 2

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?

Yn anffodus, ceir tystiolaeth nid yn unig y bod rhai Awdurdodau’n methu’r targedau cenedlaethol, ond eu bod hefyd yn methu adlewyrchu a gwireddu dymuniadau eu hardaloedd a’u trigolion. Yng Nghastell Nedd Port Talbot, er enghraifft, ni welwyd cynnydd ar addysg Gymraeg dros gyfnod o 15 mlynedd, er y bod pob mesur yn nodi galwad sydd ddwywaith a rhagor tu hwnt i’r darpariaeth.

Gan fod y Cynlluniau’n ofyniad statudol, mae’n naturiol disgwyl eu bod yn cyflawni’n briodol.  Nid yw hyn yn wir ar hyn o bryd.

Mae ymateb yn briodol i fesur y galw am addysg Gymraeg, mewn siroedd llai dwys eu Cymraeg, yn hanfodol. Mae rhai siroedd wedi ymateb yn gadarnhaol yn sgil hyn, e.e. Bro Morgannwg, ond nid yw CNPT, er mesur y galw fwy nag un waith, wedi ymateb o gwbl.  Mewn siroedd llai nag uchelgeisiol o ran twf addysg Gymraeg, mae angen clymu mesur y galw’n dynn wrth dargedau twf a dylai’r Llywodraeth wrthod y Cynlluniau nes bod hyn i’w weld.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?

Fel y nodwyd eisoes, os yw’r Cynlluniau am wneud gwahaniaeth, bydd angen seiliau cryfach a gwell cydlynu rhwng y Llywodraeth a’r Awdurdodau Lleol. Golyga hyn amlinelliad cadarn o’r disgwyliadau cenedlaethol, yn ogystal ag arweiniad a chefnogaeth ymarferol i lunio a gwireddu cynlluniau gweithredu sy’n cyfrannu at y darlun cenedlaethol ac yn ymateb i ofynion lleol.

Mae angen i’r Cynlluniau Strategol nodi’r glir y canrannau a’r niferoedd sy’n derbyn addysg Gymraeg, y targedau a ddisgwylir gan y Llywodraeth, a sut yr eir ati i’w cyrraedd.

Mae targedau cenedlaethol y Llywodraeth, o’u dadansoddi, yn awgrymu bod angen tua 70 o ddosbarthiadau ysgol fesul blwyddyn i’w cyrraedd, o ran twf addysg Gymraeg. Mae angen i’r Llywodraeth ei hun osod y targedau lleol i awdurdodau lleol sydd wedi dangos nad ydynt yn debygol o gyrraedd y nod, gan dderbyn bod angen rheolaeth ficro yn yr achosion hyn.

Cwestiwn 3

Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?

Fel yr amlinellir uchod, mae lle i bryderu nad yw’r targedau’n cael eu rheoli’n ddigon cadarn, ac oherwydd hyn, nid oes cynnydd digonol. Noder yn ogystal, mai anwastad yw cynnydd ar draws Cymru. Dengys y dystiolaeth gyfredol bod angen tynhau’r gofynion a’r prosesau rheoli mewn perthynas â’r Cynlluniau.

Byddai’n dda i’r Llywodraeth, yn sgil diffyg cynnydd sawl awdurdod lleol, drosi’r targedau cyffredinol yn dargedau penodol, h.y. nodi sawl dosbarth / ysgol newydd a ddisgwyli erbyn 2020. Nid yw’n ymddangos bod gan y Llywodraeth systemau digon eang a chryf i ddelio ag awdurdodau sy’n llusgo’u traed o ran cynyddu addysg Gymraeg.

Mae nifer o Gynlluniau Awdurdodau Lleol yn cynnwys is-gymalau amodol ar eu cynlluniau, ac mae hyn yn gallu arwain at ddiffyg gweithredu.

Mae angen, felly, i’r targedau fod yn rhai penodol, gan gynnwys nifer y dosbarthiadau ychwanegol neu ysgolion ychwanegol sydd eu hangen i gyrraedd y nod, a ble y caiff y rhain eu darparu.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Byddwn yn argymell adolygiad o’r trefniadau presennol a mwy o drafod gyda’r Awdurdodau Lleol. Ni ddylid ystyried am eiliad unrhyw ostyngiad yn y gofynion; yn wir, fel y nodwyd uchod, byddwn yn pwyso am dargedau sydd mor uchelgeisiol â sy’n bosib ac yn realistig mewn maes mor allweddol. Byddwn yn dadlau y byddai gofynion eglurach yn hwyluso cynnydd a dealltwriaeth o’r gofynion.

Mae’n ymddangos nad oes gan rai Awdurdodau Addysg fawr syniad am fanteision addysg Gymraeg, neu nad oes ganddynt ymrwymiad, naill ai o du gwleidyddion neu o du’r swyddogion addysg.

Mae angen i’r Llywodraeth gychwyn rhaglen gynhwysfawr o hyrwyddo ac argyhoeddi, fel rhan o’r prosesau monitro ac adolygu.

 


 

Cwestiwn 4

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?

Rhaid i unrhyw faes polisi sy’n ymwneud â’r Gymraeg fod yn rhan o ddarlun ehangach a chydlynus os am wneud gwir wahaniaeth. Rhaid cefnogi gofynion addysg gydag ystyriaethau cymdeithasol ac economaidd ehangach, megis: iaith y cartref; cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith tu hwnt i’r ysgol, a’r Gymraeg fel sgil ymarferol yn y gweithle.

Yn anffodus, mae tystiolaeth fod darpariaeth Dechrau’n Deg yn llawer gwannach o ran y Gymraeg na darpariaeth ysgolion Cymraeg. Mae hyn yn rhwystr amlwg i dwf addysg Gymraeg. Nid oes tystiolaeth bod y Llywodraeth yn ymyrryd i wella hyn.

Mae’r Mesur Teithio (2008) yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu cludiant sy’n hyrwyddo addysg Gymraeg.  Gwelwyd nad yw hyn yn ystyriaeth i nifer o Awdurdodau Lleol wrth iddynt gwtogi ar gludiant i addysg 16+, neu wrth iddynt godi tâl am hyn.  Mae siroedd yn ne-ddwyrain Cymru’n codi mwy na £300 am gludiant i addysg 16+.  Gan fod disgyblion ysgolion Cymraeg yn debygol o fyw’n bellach o’r ysgol na disgyblion ysgolion Saesneg, mae hyn yn torri gofyniad y Mesur.  Fodd bynnag, nid oes un achos o’r Llywodraeth yn ymyrryd i sicrhau cydymffurfio â’r Mesur.

Lle mae rhai Awdurdodau Lleol yn ad-drefnu ysgolion i gyrraedd safonau Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, gwelir yn aml mai ysgolion Saesneg sy’n cael y flaenoriaeth o ran codi adeiladau newydd.  Yna bydd ysgolion Cymraeg yn agor yn hen adeiladau’r ysgolion Saesneg. Er bod eithriadau, mae hyn yn duedd.

Wrth i adeiladwyr godi stadau tai newydd, prin bod enghraifft o Awdurdod Lleol yn gosod ysgol Gymraeg mewn adeiladau ysgol sy’n rhan o’r cynlluniau. 

 

O fewn y byd addysg, byddwn yn pwyso am ddilyniant a chyfleoedd ieithyddol drwy’r holl gontinwwm addysg: Cyn-ysgol, meithrin, cynradd, uwchradd ac addysg bellach ac uwch.

Wrth i addysg Gymraeg ehangu, ac os yw ysgolion Saesneg yn mynd i gyflwyno pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid rhoi ystyriaeth arbennig i ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn ogystal er mwyn rhoi hyfforddiant iaith effeithiol i athrawon a darpar athrawon.

Mae galw hefyd am hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith y cartref, ac mae angen rhoi hyrwyddo darpariaeth Cymraeg i Oedolion ymysg rhieni a darpar rieni.  Dylai hyn fod yn un o nodau’r Endid newydd.

Nodwn yn ogystal effaith gamwahaniaethol codi tâl am gludiant i’r ysgol Gymraeg agosaf mewn rhai ardaloedd.

Nodwn a chroesawn y pwyslais a roddir yn Adroddiad Donaldson ar ddefnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu yn ogystal a phwnc mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae argymhelliad yr Athro Sioned Davies (Un Iaith i Bawb) i ddiddymu’r gwahaniaeth rhwng “iaith gyntaf” ac “ail iaith” yn un ymarferol a phwrpasol.


 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Mae angen i holl faes polisi’r iaith Gymraeg weithio’n synergeddol, gyda syniadau sy’n seiliedig ar egwyddorion cynllunio iaith yn treiddio drwy’r holl agenda.

Mae Dyfodol i’r Iaith am weld Gweinyddiaeth Iaith gref yn cael ei sefydlu yn y Llywodraeth, a fydd yn gyfrifol am gydlynu gwaith mewn gwahanol adrannau llywodraeth, gan lunio polisi a gosod targedau uchelgeisiol. Hyd nes y ceir hyn, mae angen i Adran Addysg y Llywodraeth fod â gorolwg ar y maes, gan gydlynu ymdrechion ym mhob sector.

Unwaith eto, mae angen cael pwyslais ar hyrwyddo ymysg awdurdodau addysg a rhieni’n gyffredinol.

Cwestiwn 5

Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

Tra erys y darpariaeth a’r dilyniant yn anghyson, yna ni chaniateir i bob disgybl gael mynediad teg at ddysgu’r iaith Gymraeg. Fel y nodir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, Ysgolion Cymraeg sy’n cynnig y model gorau i drosglwyddo’r iaith. Er lles yr iaith a chyfleoedd i ddisgyblion, byddwn yn mynnu mai ehangu addysg Gymraeg ar raddfa fawr, tra’n hwyluso mynediad, yw’r ffordd ymlaen.

Mae’n amlwg y bydd plant o gartrefi incwm isel o dan anfantais os na fydd cludiant rhad ar gael iddynt i ysgolion.

Rydym yn ymwybodol o’r gwahaniaeth canlyniadau rhwng bechgyn a merched, a rhwng disgyblion teuluoedd ag incwm a rhai sy’n gymwys am brydau bwyd ysgol am ddim. Mae teuluoedd llai breintiedig eisoes wedi’u hamddifadu o waith ac incwm digonol, a heb ysgolion Cymraeg, byddai’r plant hefyd wedi’u hamddifadu o iaith neilltuol Cymru.  Trwy roi addysg i’r rhain yn y Gymraeg, a thrwy sicrhau safonau uchel yn y Saesneg yr un pryd, mae ysgolion Cymraeg yn cyfrannu’n gadarnhaol at bosibiliadau cyflogadwyedd y disgyblion hyn mewn modd na all unrhyw fodel arall o ysgol wneud.

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?

Byddwn yn galw am fwy o ysgolion Cymraeg, a chymorth dwys i ysgolion wella eu darpariaeth presennol. Unwaith eto, ategwn yr angen am fonitro gofalus, a sicrhau bod Awdurdodau’n cynllunio’n rhagweithiol ac yn cyfarch anghenion eu hardaloedd a’r trigolion.

Ar adeg pan fo galw am ganlyniadau uwch, mae’n eironig bod cyllideb ysgolion ledled Cymru’n cael ei thorri, a bod staff yn cael eu colli mewn llu o ysgolion gan wanhau’r gymhareb athro-disgybl. Mewn amgylchiadau fel hyn mae’n anodd gweld sut y bydd ysgolion yn gallu dal i wella safonau. Gellir dweud am ysgolion Cymraeg, ar y cyfan, eu bod yn cyfrannu rhaglen eang o weithgareddau allgyrsiol sy’n adeiladu cymeriad a diwylliant pobl ifanc, a bod y staff yn frwdfrydig, a thrwy fod â sgiliau mewn dwy iaith, mae disgyblion yn cael y fantais orau i gychwyn byw’n annibynnol.

Fel y nodwyd gennym eisoes, mae cael monitro trylwyr o Lywodraeth ganol i Awdurdodau Lleol ac i ysgolion unigol yn rhan annatod o sicrhau bod y Cynlluniau Strategol yn dwyn ffrwyth.

Os nad oes gweithlu digonol yn y Llywodraeth i wneud hyn, byddai’n dda i Estyn gymryd rôl fonitro, a gweithredu o fewn targedau penodol a osodir gan y Llywodraeth.

Byddai’n dda, e.e., i’r Cynlluniau Strategol, mewn siroedd llai dwys eu Cymraeg, nodi’r ganran sydd mewn addysg Gymraeg, nodi’r ganran sy’n galw am addysg Gymraeg, nodi hefyd y ganran sy’n dymuno i’w plant fod yn ddwyieithog, a dangos cynllun sut y gwneir iawn am y gwahaniaeth rhwng y ddarpariaeth bresennol ac awydd rhieni.

Rhan o’r darlun llawn hefyd yw sicrhau bod prosesau hyrwyddo cadarnhaol ar waith, ymysg rhieni, staff ysgolion, ac awdurdodau lleol.

Cwestiwn 6

Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

Mae angen i’r Llywodraeth fynnu bod y Cynlluniau sirol yn amlinellu’n glir sut y byddent yn cyfrannu at dargedau twf y Strategaeth Addysg. Ar yr un pryd, mae angen cymryd rôl greadigol yn y broses o hyrwyddo a chydlynu’r Cynlluniau.

Cwestiwn 7

A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?

Nagoes.